Sut i archebu ail bresgripsiwn 

 

YN ÔL I'R MYNEGAI

 

Rhaid i gleifion sicrhau bod ceisiadau am feddyginiaeth wedi eu cyflwyno o leiaf 48 awr cyn i'w meddyginiaeth ddarfod.

Gwnawn bob ymdrech i ddelio â’ch eich cais o fewn yr amser hwn.

Gellir cyflwyno ceisiadau i:

  • Ap GIG CymruGofynnwch am fynediad drwy'r dderbynfa a rhoddir mynediad i chi archebu eich presgripsiynau ar-lein, mae hyn yn disodli'r system e-bost flaenorol o archebu presgripsiynau.
  • Drwy'r post (gan amgáu amlen wedi ei hunan-gyfeirio a'i stampio).
  • Mewn person gan ddefnyddio'r blwch ceisiadau am ail bresgripsiwn  yn y practis.
  • Gollwng yn eich Fferyllfa agosaf (mae hwn yn wasanaeth y mae rhai Fferyllfeydd yn ei ddarparu ond weithiau y byddent angen fwy na 72 awr, gwiriwch gyda'ch Fferyllfa os gwelwch yn dda, mae'r gwasanaeth hwn y tu allan i'n hymrwymiad 72 awr).
    .

image of pharmacist

Nid ydym yn derbyn ceisiadau am bresgripsiynau drwy gyfrwng ffôn, oni bai i hyn gael ei drefnu gyda'r practis neu eich bod yn glaf cofrestredig caeth i'r cartref.

 

Gwybodaeth Defnyddiol