Ein System Apwyntiad

 

YN ÔL I'R MYNEGAI

 

Cyn trefnu apwyntiad - gwiriwch os gwelwch yn dda pwy sydd orau i ddelio â'ch cyflwr:

I drefnu apwyntiad, ffoniwch 03000 856688. Bydd aelod o staff ar gael o 8.00am hyd 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener i ateb eich galwad.

Rydym yn gweithredu gwasanaeth brysbennu lle gall cleifion gysylltu â'r practis o 8.30am, bydd gofyn i chi grybwyll natur y broblem i'r derbynnydd. Cewch unai eich ychwanegu i'r rhestr brysbennu neu eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf addas ynghylch eich problem.

book appointment with GP

Yna fe gewch alwad yn ôl neu apwyntiad ar y diwrnod fydd yn cynnal eich ymgynghoriad. Os gellir delio â'r mater dros y ffôn, caiff ei drefnu gan ein tîm gweinyddu os oes angen gweld meddyg arnoch.

Gallwch hefyd wneud cais am y gwasanaeth hwn drwy e-bostio gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein ddiogel rhwng 9.30am a 3.30pm.

Drwy ddefnyddio'r gwanaeth brysbennu gallwch:

  • Gael cais i ddod i'r practis
  • Derbyn cyngor dros y ffôn
  • Cael eich cyfeirio at wasanaeth arall addas
  • Cael trefnu archwiliadau
  • Derbyn apwyntiadau gan staff eraill yn y practis

Dim ond ceisiadau brys a dderbynnir wedi 4pm a gofynnir i'r holl alwadau arferol wedi'r amser hwn alw yn ôl y diwrnod canlynol. Bydd y claf yn derbyn galwad yn ôl ar yr un diwrnod oni bai bod y llwyth gwaith yn eithriadol ac nad yw'n caniatáu amser ar gyfer hyn.

Gwnawn ein gorau i gadw amseroedd aros i'r lleiafswm ond mae problemau brys yn codi'n annisgwyl ac fe allent achosi oedi o ran rhai apwyntiadau. Yn yr amgylchiadau neilltuol hyn bydd ein derbynyddion yn ymdrechu i roi gwybod i chi ac yn rhoi'r opsiwn i chi ganslo neu ail-drefnu eich apwyntiad.

Os nad oes modd i chi gadw apwyntiad, rhowch wybod i'r practis cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda.

 

Gwasanaethau Dehongli

Os bydd arnoch angen dehonglydd ar gyfer eich apwyntiad, a fyddech cystal â thynnu sylw'r practis at hyn cyn eich apwyntiad fel y gallwn drefnu hyn i chi?

 

Damweiniau ac Argyfyngau

Yn wyneb damwain ddifrifol neu argyfwng meddygol, galwch 999 heb oedi.

Cofiwch, fodd bynnag, bod y Gwasanaeth Ambiwlans yn adnodd wedi ei ymestyn hyd ei eithaf, yn enwedig y tu allan i oriau, a bod galwadau di-anghenrhaid nad ydynt yn rhai brys yn rhoi pwysau ychwanegol ar griwiau Ambiwlans.

 

Gwybodaeth Defnyddiol