Rydym yn defnyddio cwcis i helpu i ddarparu'r profiad ar-lein gorau i chi. Drwy ddefnyddio'r safle hon, rydych yn cytuno y gallem storio a chyrchu cwcis ar eich dyfais. Polisi cwcis. Gosodiadau cwcis.
Cwcis Swyddogaethol
Mae Cwcis Swyddogaethol wedi'u galluogi yn ddiofyn bob amser fel y gallwn arbed eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis a sicrhau bod y wefan yn gweithio ac yn darparu'r profiad gorau.
Cwcis Trydydd Parti
Mae'r wefan yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth anhysbys megis nifer yr ymwelwyr sy'n ymweld â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd. Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.
Clinigau a Gwasanaethau
Mae'r gwasanaethau canlynol wedi eu darparu yn ychwanegol i adnoddau meddygol cychwynnol. Efallai y bydd gwasanaethau ychwanegol yn cael eu darparu ymhen amser.
- Cynllunio teulu
- Gofal Cyn-Geni
- Gofal Asthma
- Sgrinio Diabetig
- Clefyd Coronaidd y Galon a Gofal Ffordd o Fyw
- Gofal Clustiau
- Lles Merched a Gofal HRT
- Iechyd plant & Imiwneiddio
- Cinigau Teithio
Bydwraig
Mae'r tîm bydwragedd wedi'i leoli'n lleol a gellir cysylltu yn uniongyrchol ar 03000 856714
Ymwelydd Iechyd
Mae'r tîm Ymwelwyr Iechyd wedi ei leoli ar y safle ac yn cynnig ystod eang o wasanaethau, galwch 03000 856710 am ragor o wybodaeth. Mae hefyd Linell gymorth Uniongyrchol GIG ar 111 ac mae Llinell gymorth Unionyrchol Ddeintyddol ar 111
Mân Lawdriniaeth
The practice will refer you to a GP who can provide this service.
Archwiliadau Meddygol Preifat
Mae Archwiliadau Meddygol Preifat ar gael i'n cleifion drwy apwyntiad, ar gyfer cyn-gyflogaeth, gyrru, hedfan, HGV, tacsi, PSV ac ati. Gofynnwch wrth y dderbynfa am restr o'r costau cyfredol.
Gwasanaethau Rheoli Meddyginiaeth
Mae gennym dîm o fferyllyddion a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol. Maent yn sicrhau bod eich meddyginiaethau wedi eu hadolygu a bod pob cyfundrefn yn gywir, gallant hefyd helpu gydag unrhyw bryderon yn ymwneud â meddyginiaeth.
Trafnidiaeth
Cyn belled â'ch bod yn cwrdd â meini prawf penodol mae trafnidiaeth ar gyfer apwyntiad ysbyty ar gael. Galwch y Ganolfan Archebu Trafnidiaeth ar 08456076181